Mae Porter’s Presents yn symud i ddwylo’r gymuned, lle y gall unrhyw un – cerddorion, hyrwyddwyr, cymdeithasau prifysgolion, a phobl greadigol – roi ei syniadau am ddigwyddiad ymlaen a dylunio’n calendr. Gan gynnig technegwyr sain ac asedion hyrwyddo a llogi ein llwyfan yn rhad ac am ddim, rydyn ni’n tynnu rhwystrau ariannol er mwyn rhoi’r cyfle i bawb lwyfannu eu syniadau.

MAE’R BROSES YN SYML:

Gwneud eich cais

Cyflwynwch eich syniad am ddigwyddiad gan ddefnyddio’n ffurflen.

Adolygu’r cais

Bydd ein tîm yn asesu’ch syniad ac yn cysylltu â chi.

Cael cymorth

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael arweiniad cam-wrth-gam a fydd yn eu helpu gyda phethau fel logisteg y digwyddiad a dylunio posteri.

Hyrwyddo a Pherfformio

Gweithiwch gyda ni i rannu’r newyddion da ac i gynnal digwyddiad gwych!

Calendr

Porter’s Presents

*Fel arfer, byddwn yn cynnal digwyddiadau Porter’s Presents pob dydd Mercher a’r ddau ddydd Gwener cyntaf o bob mis!

D Y S G W C H R A G O R !

Y FFURFLEN